Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mercher 21 Chwefror 2024

Amser:6pm – 8pm, Lleoliad: Ystafell Bwyllgora A, Tŷ Hywel ac MS Teams

 

YN BRESENNOL (YN Y SENEDD): Jenny Rathbone AS (Cadeirydd); Eluned Morgan AS; Sian Gwenllian AS, Sioned Williams AS, Helen Fychan AS, Bronwen Davies – Hawliau Erthylu Caerdydd; Tessa Marshall – Breast Cancer Now; Viv Rose – BPAS; Alice Fairman – BPAS; Diana Dobryzynska – BPAS; Caroline Sherf – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro; Judith Cutter – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro; Sarah Thomas – Y Rhwydwaith Maethu; Hanna Andersen – WEP; Rachael Joseph – FTWW; Georgina Forbs – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Beth Hales – FTWW; Anna Cooper; FTWW

YN BRESENNOL (AR-LEIN): Amanda Davies – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Debbie Shaffer – FTWW; Alison Scouller – Cymdeithas Iechyd Sosialaidd Cymru; Meena Upadhyaya – FTWW; Lucy Grieve – BPAS; Lisa Nicholls – FTWW; Carina Harigan – FTWW; Willow Holloway – Anabledd Cymru; Dr Aimee Grant – Prifysgol Abertawe; Ceilidh Harris Al Amoodi – SANDS; Sarah Ford – FTWW; Rosie Walworth – RCOG; Dee Montague – FTWW; Sarah Griffith – Prifysgol Metropolitan Caerdydd; Rachel Hawks – Verity PCOS; Jade Heffron – Endometriosis UK; Wendy Diment; Sofia Gamiero – Prifysgol Caerdydd; Donna Davies – FTWW; Jane Dickson – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Jill Rundle – Pwyllgor Cymru NWFI; y Cynghorydd Jasmin Chowdhury – ICC; Rhiannon John – FTWW; Julie Richards – FTWW; Helen Perry – NYAS; Sarah Anne Evans – FTWW; Louise Evans – FTWW; Jacky Boivin – Prifysgol Caerdydd

YMDDIDHEURIADAU:     Sarah Murphy AS, Delyth Jewell AS, Joyce Watson AS, Llyr Gruffydd AS, Rhun ap Iorwerth AS, John Griffiths AS, Becci Frost – FTWW, Jo Whitfield – Beat

 

1.   CROESO, COFNODION, MATERION SY’N CODI, A’R CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL        

Cofnodion:Derbyniwyd y cofnodion.

Materion sy’n codi: Cafodd aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol gopi o lythyr gan Lywodraeth Cymru ynghylch targedau gofal erthyliad, a chafodd ei nodi gan y rhai a oedd yn y cyfarfod.

2.   Y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu cynllun iechyd menywod

 

Sylwadau gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

·         Diolchodd y Gweinidog i bawb am ddod i’r cyfarfod ac roedd am drafod newidiadau er gwell yn y modd roedd iechyd menywod yn cael ei drin yng Nghymru

·         Roedd y Gweinidog am edrych ar y sefyllfa drwy lygaid menywod (nid dim ond materion gynaecolegol, ond pob dim, gan gynnwys sut y caiff menywod eu trin pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau iechyd cyffredinol e.e. trawiad ar y galon)

·         Roedd y Gweinidog wedi dechrau drwy gyflwyno Datganiad Ansawdd ar iechyd menywod yn nodi disgwyliadau’r cyhoedd, ac i fyrddau iechyd ei ddefnyddio i fesur profiadau menywod

·         Dywedodd y Gweinidog nad yw pethau wedi symud ymlaen mor gyflym ag y byddai wedi dymuno ers 2022 ond, gan nad yw hi’n rhedeg byrddau iechyd, mae llawer o’r cyfrifoldeb yn disgyn, yn ddigon briodol, ar fyrddau iechyd i roi’r mesurau ar waith

·         Soniodd y Gweinidog am yr Adroddiad Darganfod a ryddhawyd yn 2022 a phwysigrwydd siarad â menywod am eu profiadau. Ymgysylltwyd â menywod ledled Cymru a chofnodwyd 4000 o ymatebion. Bydd y rhain yn cyfrannu at y cam nesaf

·         Dywedodd y Gweinidog y bydd gan Dr Helen Munroyr, yr Arweinydd Clinigol newydd ar gyfer Iechyd Menywod, ran allweddol yn y broses o gyflawni’r disgwyliadau a nodir yn y Datganiad Ansawdd

·         Mae gwaith yn mynd rhagddo i recriwtio Rheolwr Rhwydwaith Strategol i weithio gyda'r Arweinydd Clinigol

·         Yr un yw neges Llywodraeth Cymru o hyd o ran gofal iechyd: “Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif

·         Bydd cynlluniau cyflawni tymor hir, canolig a byr yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf

 

3.   Agor y drafodaeth

 

Gofynnodd Sian Gwenllian AS a oedd bras amcan o’r dyddiad y caiff y Cynllun Iechyd Menywod ei gyhoeddi

 

·         Dywedodd y Gweinidog fod yn rhaid i hwn fod yn gynllun a gaiff ei ddatblygu dan arweiniad y GIG. Roedd y Llywodraeth wedi bod yn aros i'r Arweinydd Clinigol gael ei benodi er mwyn i’r person hwnnw allu arwain y gwaith o ddatblygu’r cynllun ar y cyd ag arbenigwyr eraill

·         Mae’r Gweinidog yn awyddus i fersiwn tymor byr o’r cynllun gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2024

·         Mae’r Gweinidog wedi cyfarwyddo ei swyddogion i ailddosbarthu arian ymchwil er mwyn gwario mwy ar ymchwil iechyd menywod

 

Dywedodd Dr Caroline Sherf fod gwasanaethau erthylu mewn sefyllfa fregus gan fod cyn lleied o feddygon y GIG wedi'u hyfforddi i ddarparu’r gofal angenrheidiol ac oherwydd diffyg cynllunio ar gyfer olyniaeth. Gofynnodd a ellid gwneud rhywbeth i atal menywod rhag gorfod cael eu hanfon i Loegr am driniaeth o ystyried bod erthyliad mor gyffredin

 

·         Dywedodd y Gweinidog y bydd yn edrych ar ddarparwyr gofal integredig (Beth yw’r rhain?) ac roedd yn cydnabod bod parhad gofal erthyliad yn hollbwysig. Bydd yn trafod hyn â’i swyddogion fel mater o frys ac yn cysylltu eto i roi'r wybodaeth ddiweddaraf

 

Gofynnodd Alison Scouller am ragor o wybodaeth am yr Adroddiad Darganfod sy’n gam yn y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Iechyd Menywod

 

·         Dywedodd y Gweinidog fod y Llywodraeth wedi ceisio cysylltu â chynifer o fenywod â phosibl. Roedd cymysgedd o arolygon a grwpiau ffocws dilynol a llwyddwyd i gael tua 3,000 o ymatebion

 

Gofynnodd Debbie Shaffer hefyd am ragor o wybodaeth am yr Adroddiad Darganfod. Soniodd am bwysigrwydd gwneud yn siŵr bod cleifion ac eiriolwyr yn cynhyrchu pethau ar y cyd oherwydd, yn aml iawn, nid yw strwythurau yn bod yn y GIG mwyach i ganiatáu hyn. Gofynnodd am ymrwymiad i danlinellu pwysigrwydd rhoi llais i’r claf yn y rhwydwaith clinigol strategol cenedlaethol a’r byrddau iechyd lle mae lleisiau mor allweddol i’r broses o wella gwasanaethau.

 

·         Diolchodd y Gweinidog i FTWW am eu hadroddiad defnyddiol a dywedodd fod y cynnwys yn cael ei adlewyrchu yn yr Adroddiad Darganfod

·         Dywedodd y Gweinidog fod angen mwy o gynhyrchu ar y cyd ond bod angen hefyd i glinigwyr arwain y gwaith. Roedd yn gobeithio y bydd yr Arweinydd Clinigol newydd yn gallu dylanwadu ar hyn a manteisio ar yr holl fenywod sy’n arwain ym maes iechyd yng Nghymru ac sy’n awyddus i fod yn rhan o‘r gwaith.

 

Soniodd Anna Cooper am ei phrofiad o fod ag endometriosis difrifol sydd wedi achosi iddi golli ei phledren a rhannau o’i choluddyn. Gofynnodd beth oedd y cynlluniau ar gyfer gwella’r broses gyfeirio ac amseroedd aros yng Nghymru, o ystyried nad yw Cymru yn gwneud cystal yn y cyswllt hwn. Ar gyfartaledd, rhaid aros naw mlynedd cyn cael diagnosis o endometriosis yng Nghymru.

 

·         Roedd yn ddrwg gan y Gweinidog glywed am brofiad Ms Cooper a, chyn iddi gael ei phenodi i’w swydd, nid oedd wedi sylweddoli pa mor gyffredin oedd y cyflwr ond mae wedi bod yn edrych ar y sefyllfa a’r modd y gellid lleihau’r rhestrau aros.

·         Roedd y Gweinidog yn glir nad oedd am ganolbwyntio ar ddiagnosis yn unig, ond hefyd ar ansawdd y driniaeth yng Nghymru. Mae’n credu y gellir gweithio ar lwybrau diagnosis a thriniaeth ar wahân i gryfhau gwasanaethau

 

Holodd Tessa Marshall am faterion yn ymwneud â chanser y fron. Yn benodol, y nifer fawr o fenywod sy’n mynd at eu meddyg teulu gan fod ganddynt symptomau a'r angen i ymrwymo i ôl-ofal gwell

 

·         Dywedodd y Gweinidog fod cyfleoedd gwirioneddol yn y cyswllt hwn ond, ers Covid, maent wedi gorfod atgoffa nifer gynyddol i fynd am eu prawf sgrinio’r fron. Un rhan o wella llwybrau iechyd menywod oedd sicrhau bod nifer gynyddol o fenywod yn cysylltu â’r gwasanaeth yn y lle cyntaf

 

Roedd y Cynghorydd Jasmin Chowdhury, sy’n gweithio fel ymarferydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, am wybod rhagor am y ddemograffeg anoddaf i’w chyrraedd, a chyfeiriodd at adroddiad MBRRACE fel enghraifft o sut mae angen gwneud mwy o ymdrech i ymgysylltu

 

·         Cytunodd y Gweinidog fod casgliadau adroddiad MBRRACE yn peri pryder mawr – yn enwedig ynghylch ymarferwyr gofal iechyd a system nad yw’n gwrando ar fenywod

·         Tynnodd y Gweinidog sylw at y ffaith ein bod yn gwybod llawer mwy nag o’r blaen a bod angen ymwreiddio’r newidiadau angenrheidiol yn y gwasanaeth

 

Siaradodd Dee Montague am gyflyrau cronig fel ME a ffibromyalgia a'u heffaith bosibl. Tynnodd sylw at y rhwystrau sy’n cael eu creu wrth i’r gwasanaeth gofal iechyd ganolbwyntio cymaint ar ddeiet ac ymarfer corff a dywedodd fod mesurau ataliol yn cael eu defnyddio weithiau i osgoi gorfod delio â’r canlyniadau. Gofynnodd Dee a fyddai’r Gweinidog yn ymrwymo i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn a gofynnodd hefyd sut y gellid ymwreiddio’r model cymdeithasol o anabledd yn y system gofal iechyd drwyddi draw

 

·         Dywedodd y Gweinidog fod miliynau wedi’u buddsoddi i edrych ar gyflyrau cronig ac effaith Covid Hir

Roedd y Gweinidog yn deall y ddadl ynghylch mesurau ataliol, ond ni fyddai’n ymddiheuro gan fod gordewdra’n arwain at lawer o broblemau iechyd ac mae'n iawn bod y system gofal iechyd yn rhoi sylw i hynny. Dywedodd ei bod yn bwysig dangos sensitifrwydd ond mae'n debyg mai dyma yw’r her fwyaf ym maes iechyd yng Nghymru. Dywedodd fod gwaith yn mynd rhagddo i ymwreiddio'r model cymdeithasol o anabledd

Dywedodd Meena Updhyaya nad oedd yr Adroddiad Darganfod yn cyfeirio at geneteg a genomeg o gwbl. Tynnodd Meena sylw at y ffaith bod rhai syndromau genetig yn effeithio ar fenywod yn unig ac y gallant, er enghraifft, beryglu ffrwythlondeb menywod, ac mae biofarcwyr a all ddod o hyd i’r rhain. Tybed a oedd y ffactorau pwerus hyn yn cael eu hystyried wrth ddatblygu'r Cynllun Iechyd Menywod

 

·         Cytunodd y Gweinidog fod llawer o’r problemau’n gysylltiedig â geneteg a genomeg a thynnodd sylw at y ffaith bod llawer o genetegwyr benywaidd gwych yng Nghymru sy’n arweinwyr byd-eang yn y maes. Roedd yn gobeithio y gallent weithio gyda’r Arweinydd Clinigol newydd i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnwys yn y gwaith sy’n mynd rhagddo

 

Ategodd Viv Rose o BPAS yr hyn a ddywedodd Dr Sherf yn gynharach am ofal erthyliad. Dywedodd ei bod yn destun pryder na fu modd iddynt roi gofal erthyliad i ddwy fenyw yn ystod y ddau fis diwethaf oherwydd bod angen triniaeth arbenigol arnynt. Tynnodd Viv sylw at yr anawsterau a wynebai dwy fenyw pan fu’n rhaid iddynt fynd i Lundain ddwywaith i gael triniaeth sydd mor gyffredin

 

·         Dywedodd y Gweinidog mai cenedl fach ydyn ni a gall fod yn anodd cael arbenigwyr ar garreg drws pawb. Dywedodd y byddai'n ystyried triniaeth erthyliad mewn perthynas â theithio

 

Dywedodd Sarah Thomas o Sefydliad y Merched fod llai na 70% o fenywod yng Nghymru yn mynd am eu prawf sgrinio serfigol a bod llawer o rwystrau’n eu hatal. Tynnodd Sarah sylw at ffyrdd arloesol gwahanol o gyrraedd mwy o bobl ac o addysgu’r cyhoedd am y gwahaniaethau rhwng y pum canser gynaecolegol

 

·         Dywedodd y Gweinidog ei bod wedi cael llawer o sgyrsiau’n ddiweddar ynghylch sut y gellid cynyddu’r nifer sy’n cael y prawf, ac y byddai’r Cynllun Iechyd Menywod yn rhoi sylw i hyn.

 

 

4.   Unrhyw fater arall

 

Y cyfarfod nesaf: i’w gadarnhau